Croeso i Ranbarth Cymru.
Rydym yn cwrdd tua phedair gwaith y flwyddyn mewn safleoedd dros Gymru gyfan er mwyn trefnu cyrsiau a digwyddiadau, yn cynnwys diwrnodau hyfforddiant ar gyfer ymgeiswyr Siarteriaeth a digwyddiadau hel pres ar gyfer prosiectau cymorth rhyngwladol. I weld beth rydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar cymrwch gipolwg ar ein cylchlythyr ‘Ymlaen’.
Mae’r pwyllgor yn cynnwys gwirfoddolwyr o lyfrgelloedd cyhoeddus, academaidd ac arbennig. Rydym yn dîm bach cyfeillgar ac yn croesawu aelodau newydd.
Os wyt yn aelod o’r Grwp Datblygu Gyrfa ac eisio cymryd rhan, mae yna nifer o gyfleoedd i gael profiad o waith pwyllgor, cadeirio cyfarfodydd, trefnu cyrsiau a rhwydweithio gyda chyd-weithwyr mewn gwahanol sectorau llyfrgellyddol. Rydym hefyd yn croesawu myfyrwyr i’r pwyllgor.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cadeirydd, Martin Edwards.
Sylwer: Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i ddogfennau mewn amrywiaeth o fformatau yn cynnwys Word, PowerPoint a Adobe Acrobat. Er mwyn gallu llwytho’r gwylwyr i lawr yn rhad ac am ddim er mwyn agor y ffeiliau hyn ewch i’n Tudalennau Cymorth .
Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol defnyddiwch ein ffurflen
ar-lein neu anfonwch e-bost i 
Os ydych eisiau ychwanegu unrhyw beth i’r wefan anfonwch e-bost at
|